Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd Y Beirdd
eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005.
Dyma fanylion y rhai fydd yn cael eu hurddo er anrhydedd eleni i
Orsedd y Beirdd.
I'w hurddo fore Llun Awst 1 yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r
Cyffiniau ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth
Urdd Llenor
Winni Jones BA, Dinas Cross, Trefdraeth, Sir Benfro
Manon Elen
Roberts, BA, Porthaethwy, Ynys Môn
Delian Haf Williams, BA,
Porthaethwy, Ynys Môn
Urdd cerddor
Claire Louise Burgess BA, Bethesda, Gwynedd
Gareth Wyn Davies
BMus, Bethesda, Gwynedd.
Urddau Er Anrhydedd 2005
I'w hurddo fore Llun Awst 1 yn
Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005.
Enillwyr Llwyfan Eisteddfod
Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004
Urdd Ofydd er Anrhydedd
Lois Arnold, Y Fenni - Dysgwraig y Flwyddyn
Carwyn John,
Bethel, Caernarfon - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
Martin
Lloyd, Casllwchwr, Abertawe - Enillydd Gwobr Goffa David Ellis
Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Y Prif Lenor Annes Glyn, Rhiwlas, Bangor - Enillydd y Fedal
Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004
Y
Prifardd Jason Walford Davies, Bangor - Bardd Coron Eisteddfod
Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004
Y Prifardd Huw Meirion
Edwards - Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r
Cylch 2004
I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth
maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod
Eirlys Dwyryd,
Rhuthun (Eirlys Dwyryd)
Gwawr Owen, Caerdydd (Gwawr
Arthen)
Beti Puw Richards, Y Bala (Bethan Rhys)
I'w hurddo fore Gwener Awst 5 yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri
a'r Cyffiniau 2005
Urdd Ofydd er Anrhydedd
J. Mansel Charles, Llanegwad, Caerfyrddin
Cyn athro
Cymraeg Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Y mae newydd ymddeol ar ôl
gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gâr am dros 20 mlynedd, a
bu'n ymwneud â Mudiad Ffermwyr Ifanc y sir am 40 mlynedd. Cyfrannodd
yn sylweddol i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.
Ann Margaret Davies, Llangybi
Prifathrawes egnïol ac
ymroddedig Ysgol Gymunedol Llangybi. Hybodd y Gymraeg a'r diwylliant
yn yr ardal gan adael ei hôl yn ddwfn yno. Chwaraeodd ran amlwg yng
ngweithgaredd yr Urdd yn y fro am dros 30 mlynedd a bu'n warden
Eglwys Sant Cybi 2000-2002.
Eulanwy Davies, Llangollen
Cyn bennaeth Adran Cerdd y
Merched Y Drenewydd a phennaeth Adran Gerdd Ysgol Gyfun Dinas Brân
Llangollen. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweinyddiaeth Eisteddfod
Rhyngwladol Llangollen lle bu'n Drefnydd Cerdd, yn aelod o'r Bwrdd
Sefydlog ac yna'n Gyfarwyddwr Cerdd.
Mildred Emily Hughes, Llangefni, Ynys Môn
Bu'n aelod o
staff y Llys Sirol yn Llangefni am 30 mlynedd a hi yw pennaeth uned
yr iaith Gymraeg yno. Gwelodd lawer o newidiadau o ran tynged y
Gymraeg yn y llys a bu iddi le anrhydeddus yn y newidiadau a gafodd
eu gwneud yn dilyn y statws deilwng a roddwyd i'r iaith yn y
llysoedd.
Janet James, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin
Treuliodd ei
hoes ym mro ei mebyd. Bu'n bennaeth yr Adran Gymraeg ac yn ddirprwy
Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Hendy-Gwyn ar Daf. Bu'n weithgar
gyda'r Urdd a chafodd ei disgyblion lwyddiant cyson yn
Eisteddfodau'r Urdd. Bu'n aelod o Gapel Esgairnant drwy ei hoes ac
yn organyddes yno. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol yn flaenor yno.
Mae'n gyn-lywydd Henaduriaeth Gogledd Myrddin.
Aled Jones, Barnes, Llundain
Daw o Landegfan, Ynys
Môn. Daeth i enwogrwydd pan yn blentyn a'i lais anghyffredin yn
gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae'n adnabyddus hefyd fel
cyflwynydd teledu. Roedd ei gefnogwyr yn hapus iawn i'w weld yn
dychwelyd i'r llwyfan cerdd.
Dewi Jones, Penygroes, Arfon
Naturiaethwr a gyflwynodd
gannoedd o blant ac oedolion i fyd natur yn Nyffryn Nantlle.
Cyfoethogodd gylchgronau natur gyda'i erthyglau am blanhigion,
naturiaethwyr a byd botaneg. Mae'n un o'r Cymry prin sydd wedi
ysgrifennu llyfrau am y pwnc. Gwasanaethodd y Gymdeithas Hanes Lleol
ers blynyddoedd a bu'n cynnal dosbarthiadau am fyd natur.
Y Parchedig J. Eric Jones, Aberdâr
Yn enedigol o
bentref Cribyn ger Llanbed, ymgartrefodd yn Aberdâr ar ôl iddo gael
ei sefydlu yn weinidog ar gapel Undodaidd Highland Place a'r Hen Dŷ
Cwrdd yn 1962. Mae'n Gadeirydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac
ymgyrchodd ar hyd ei oes dros sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal.
Am dros 20 mlynedd bu'n Gadeirydd Pwyllgor Sir Morgannwg Ganol o
fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg a bu'n Gadeirydd Cenedlaethol y
mudiad hwnnw hefyd. Bu'n Llywydd ei enwad ym Mhrydain yn 1989.
Hefin Jones, Llanrug
Brodor o Ddeiniolen, Arfon. Wrth
ei alwedigaeth mae'n nyrs mewn ysbyty. Ef yw prif weinyddwr ward
Beuno (ward ddamweiniau) yn Ysbyty Gwynedd. Mae'n aelod o Fand
Deiniolen, bu'n hyfforddwr Seindorf Ieuenctid Deiniolen lle bu'n
hyfforddi degau o ieuenctid, ac erbyn hyn ef yw Arweinydd y
Seindorf. Mae'n Eisteddfodwr brwd ac ef yw Llywydd ac Ysgrifennydd
Eisteddfod Gwaungynfi ers 1991.
Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu
Gweinidog
gyda'r Bedyddwyr am chwarter canrif yn ardal y Preselau. Bu'n
gefnogol i achosion yn ymwneud â'r Gymraeg - Urdd Gobaith Cymru.
Fforddolion Dyfed, Cymanfa Ganu cylch godre'r Preselau ac
ysgrifennydd gweithgar Cwrdd adran Gogledd Penfro. Beirniad adrodd
yn Eisteddfodau'r Urdd ac arweinydd eisteddfodau yn y sir. Mae hefyd
yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymry Ariannin a bu'n
Gadeirydd y Gymdeithas ddwy waith.
Eluned Mair Porter, Llangadfan
Athrawes wrth ei
galwedigaeth. Bu'n arolygwr Pabell Celf a Chrefft yr Eisteddfod
Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Rhoddodd wasanaeth nodedig i
Gymdeithas Edward Llwyd ac fel cynrychiolydd Cangen Plaid Cymru
Gogledd Maldwyn ar y Cyngor Cenedlaethol.
Alwena Morfudd Power, Casnewydd
Athrawes a fu'n gefn i
ddisgyblion a fynnai addysg yn y Gymraeg. Bu'n dysgu yn Ysgolion
Cymraeg Casnewydd a Chwmbran ac Ysgol Uwchradd Gwynlliw. Bu'n
gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant Eisteddfodau Cenedlaethol
Casnewydd 1988 a 2004.
Gladys Pritchard, Caergybi
Yn enedigol o Gaergybi, Ynys
Môn fe wasanaethodd ei hardal yn helaeth. Bu'n Swyddog Gweinyddol
Ysgol Uwchradd Caergybi am chwarter canrif. Y mae rhestr ei gwaith
gwirfoddol yn helaeth - gan gynnwys Eisteddfodau Cenedlaethol Môn,
Gorsedd Beirdd Môn, Cymdeithas Brodwaith Cymru (Cadeirydd Cangen Môn
ac Arfon) a Merched y Wawr. Gwasanaethodd ardal Caergybi ac Ynys Môn
yn ddiarbed.
Arwyn Roberts, Rhosgadfan
Ffotograffydd Yr Herald,
Caernarfon. Bu'n gweithio gyda'r Herald am 30 o flynyddoedd.
Dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn Eisteddfod Caernarfon 1979
ac oddi ar hynny bu'n gweithio yn Eisteddfodau'r De a'r Gogledd - yr
unig ffotograffydd sydd yng nghlwm â phapurau lleol i wneud hyn. Y
mae'n wyneb cyfarwydd mewn Eisteddfodau bach a mawr ynghyd â Gwyliau
Cenedlaethol eraill. Ymroes ei allu i gofnodi amryweddau ar
ddiwylliant y genedl.
Richard Tudor, Pwllheli
Yn frodor o Bwllheli y mae
traddodiad morwrol Pen Llŷn yn llifo'n gryf yn ei waed. Pencampwr
llywio cychod hwylio. Bu gan ei deulu gyfres o wahanol gychod, a bu
ers yn blentyn yn eu hwylio ym Mae Ceredigion a throsodd i Iwerddon.
Ac yntau ond yn 17 oed cychwynnodd fusnes gwneud hwyliau ym
Mhwllheli ac wedi 20 mlynedd o brofiad cafodd ei ddewis yn 1992 i
fod yn gapten "British Steel II" mewn ras o amgylch y byd - mordaith
arwrol a welodd wynebu gwyntoedd dychrynllyd Cefnfor y De gan lanio
yn ôl yn Southampton yn drydydd yn y ras. Fe'i dewiswyd eilwaith i
hwylio'r "Nuclear Electric" yn ei ail ras 1996-7 o gwmpas y byd gan
ddychwelyd yn llwyddiannus.
Jeannie Wyn Williams, Seland Newydd
Yn enedigol o
Minsterley, Swydd Salop, addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Llangollen a
Choleg Prifysgol Bangor lle bu'n astudio Mathemateg. Ymfudodd i
Seland Newydd yn 1966 ac mae'n byw yn Rotorua. Mae'n un o'r aelodau
a sefydlodd Gymanfa Ganu Gymraeg Seland Newydd a hi yw Ysgrifennydd
y Gymanfa ers 10 mlynedd. Hi yw Swyddog Cyswllt holl Gymdeithasau
Cymraeg Seland Newydd. Mae'n ymwelydd cyson â'r Eisteddfod
Genedlaethol.
Penri Williams, Caerdydd
Yn enedigol o Borthmadog, ac
yntau'n naw oed symudodd y teulu i Lantrisant ac yna i Gaerdydd.
Wrth ei alwedigaeth bu'n beiriannydd trydan i'r Bwrdd Cynhyrchu
Trydan. Ar ôl ymddeol y mae bellach yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth
i Fenter Iaith Morgannwg a Gwent. Bu'n Gadeirydd a Thrysorydd Menter
Iaith Rhondda Cynon Taf. Bu'n aelod o Gôr Godre'r Garth ac yn
ysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd. Bu'n aelod o Fwrdd Golygyddol
y papur bro "Tafod Elai" ac ers 18 mlynedd ef yw'r Golygydd.
Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Taf ac Elai.
Y diweddar Ronald Wyn Williams, Llanllechid (Ron Hogia
Llandegai)
Fe'i ganed yn Nyffryn Ogwen ac yno y bu'n trigo
bron gydol ei oes. Addysgwyd ef yn ysgolion Bethesda cyn dilyn
cyfnod o brentisiaeth a dod yn saer coed medrus. Un o'i brif
ddiddordebau oedd canu, ac yn ei arddegau cafodd gyfle i feithrin ei
ddawn yng Nghapel Mawr Bethesda mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan y
Parchedig Ieuan S. Jones. Bu'n aelod o gorau lleol gan gynnwys
blynyddoedd o wasanaeth i Gôr Meibion Y Penrhyn. Ei gyfraniad mawr,
fodd bynnag oedd i ganu ysgafn Cymraeg, gan iddo arloesi yn y byd
hwnnw drwy ffurfio Criw Sgiffl Llandegai gyda nifer o'i gyfeillion
yn 1957. Fel prif leisydd Hogia Llandegai daeth ei lais unigryw a'i
wyneb yn adnabyddus drwy Gymru ben baladr - a hynny dros ran helaeth
o bum degawd.
Urdd Derwydd er Anrhydedd
M Paul Bryant-Quinn, Aberystwyth
Ganed yn Ruislip,
Middlesex. Astudiodd athroniaeth am ddwy flynedd cyn symud i'r Eidal
a chwblhau gradd ym Mhrifysgol Rhufain yn 1982. Tra oedd yno,
dechreuodd ymddiddori yn y Gymraeg a'i llenyddiaeth. Dyfarnwyd iddo
radd Dosbarth Cyntaf ym Mangor yn 1989. Penodwyd ef yn 1996 yn
gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn
Aberystwyth. Ymhlith ei waith ysgolheigaidd gwnaeth astudiaeth
destunol a beirniadol o waith Ieuan Brydydd Hir ac ar hyn o bryd y
mae'n paratoi astudiaeth debyg o waith Sion Cent.
Eleri Carrog, Caernarfon
Drwy ei galwedigaeth a'i
hymroddiad hi y sefydlwyd Cefn ym mis Gorffennaf 1985. Rhoed yn
helaeth o'i hamser a'i harian i ddatblygu gwaith y mudiad yng
Nghymru gan ei gysylltu â Mudiad Hawliau Dinesig Cydwladol yn
effeithiol ac y mae dyled llu o siaradwyr Cymraeg iddi mewn
cyflogaeth, gwasanaeth cymdeithasol, achosion cyfreithiol,
ieithyddol, addysg ac ymlaen yn fawr. Ymhle bynnag y bygythir y
Gymraeg bydd hi yno. Iddi hi, er enghraifft y mae'r diolch pennaf am
argyhoeddi'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fod anffafriaeth hiliol ar
saith iaith mor wrthun ag anffafriaeth ar sail lliw croen.
Dr Dyfed Elis-Gruffydd, Sir Benfro
Daearyddwr a
daearegwr. Bu'n ddarlithydd, tiwtor, adolygydd, ysgrifwr,
ymchwilydd, cyfarwyddwr cyhoeddi, cyfieithydd ac arholwr allanol.
Bu'n gyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer am 12 mlynedd; yn ddarlithydd
rhan-amser mewn daearyddiaeth yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.
Bu'n gwydrwr ac arweinydd teithiau Cymdeithas Edward Llwyd, yn
crwydro tirweddau folcanig a rhewlifol mewn gwledydd tramor, megis
Gwlad yr Iâ, yr Auvergne a Le Isole Eloie ac ati. Sgrifennodd lawr.
Cyhoeddodd yn helaeth lyfrau, llyfrynnau, ysgrifau ac erthyglau o'i
waith daearegol geomorffelegol ac amgylcheddol ac am faterion
diwylliannol Cymru. Polymath yn wir.
Dr Jerry Hunter, Penygroes, Caernarfon
Cymro
mabwysiedig yw'r Americanwr. Yn frodor o Cincinnatti a ddysgodd
Gymraeg ar gwrs Wlpan ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a
graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Dychwelodd
i'w famwlad lle'e enillodd ddoethuriaeth o Adran Astudiaethau
Celtaidd Prifysgol Harvad cyn ei throi drachefn am Gymru ar ôl ei
benodi'n ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Cymru Caerdydd. Y mae
bellach yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru
Bangor. Bu'n olygydd ar gylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin ac
enillodd ei gyhoeddiad Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref
America (2003) deitl Llyfr y Flwyddyn 1004.
Eirlys Britton a Cliff Jones, Caerdydd
Ganed Eirlys
Britton yng Nghaerdydd a Cliff Jones yn Y Bala. Ffurfiwyd o dan eu
harweiniad medrus un o dimau Dawnsio Gwerin mwyaf llwyddiannus ac
arloesol Cymru, Dawnswyr Nantgarw. Mae'r dawnswyr wedi cipio'r brif
wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol naw o weithiau ers 9186 ynghyd â
gwobrau lu i glocswyr unigol a grwpiau o ddawnswyr. Daeth Dawnswyr
Nantgarw i'r brig yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin Eisteddfod
Ryngwladol Llangollen yn 1989. Bu'r grŵp yn cynrychioli Cymru ar
deithiau mewn nifer o wledydd megis China a Hwngari. Bu'r grŵp yn
fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon droeon ac enillodd un
o'r prif wobrau yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin y byd yn Mallorca
yn 2003. Trwy ymchwilio'n ddiwyd i gefndir dawnsfeydd a gwisgoedd
traddodiadol mae Eirlys a Cliff wedi gwneud cyfraniad aruthrol a
nodedig i hyrwyddo dawnsio gwerin nid yn unig yng Nghymru ond trwy'r
byd benbaladr.
Dorothy Jones, Llangwm
Yn enedigol o Drawsfynydd bu'n
byw yn Llangwm, Uwchaled ers blynyddoedd. Athrawes wrth ei
galwedigaeth bu ei gweithgarwch diwylliannol yn lleol ac yn
genedlaethol yn eang. Bu'n hyfforddi partïon llefaru ac yn feirniaid
llefaru a llên mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, cylch, sir a
chenedlaethol yr Urdd, yr Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfodau Ffermwyr
Ieuanc a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd llawer o gerddi ar
gyfer plant ynghyd â cherddi ar gyfer caneuon y diweddar Gilmor
Griffiths a bu'n awdur sgriptiau sioeau cerdd Ysgol Glan Clwyd megis
William Morgan, Jac Glan y Gors, H M Stanley a chyfieithu geiriau
caneuon Joseff a'i Gôt Amryliw i'w perfformio yn yr ysgol. Gwraig
ddawnus a'i chyfraniad yn lleol a chenedlaethol yn sylweddol iawn.
Yr Athro Emrys Jones, Berkhamstead, Sir
Buckingham
Ganed ef yn Aberaman, Aberdâr. Addysgwyd ef yn
Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, Prifysgol Cymru Aberystwyth a
Phrifysgol Llundain. Wedi graddio bu'n gweithio i Urdd yr Heddychwyr
yng Nghaerdydd. Cafodd yrfa academaidd nodedig yn cynnwys swyddi ym
mhrifysgolion Llundain a Belfast cyn ei benodi yn Athro
Daearyddiaeth yn y London School of Economics o 1961 hyd 1984.
Derbyniodd amryw o raddau am ei gyfraniad arbennig i ddaearyddiaeth
a'r byd academaidd. Bu'n awdur nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys yn
arbennig ei astudiaeth o gymuned y Cymry yn Utica, Efrog Newydd a'r
gyfrol diweddar "Y Cymry yn Llundain 1500-2000" fel golygydd a phrif
gyfrannwr. Bu'n aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion oddi ar
1957, yn Gadeirydd ei Chyngor 1984-89 ac yn Llywydd y Gymdeithas on
1989-2001 gan arolygu'r dathliad yn 2001. 250 o flynyddoedd ers
sefydlu'r Gymdeithas. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymry yn
Llundain ar hyd y blynyddoedd. Cyflwynwyd Medal y Cymrodorion iddo
yn 2001 i gydnabod ei gyfraniad nodedig i ysgolheictod ac i Gymru.
Geraint R Jones, Bontnewydd
Rhoddodd oes o wasanaeth i
Lywodraeth Leol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Graddiodd yn y Gymraeg
yng Ngholeg Prifysgol Bangor cyn iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi
cyfnod byr gyda chwmni o gyfriethwyr daeth i weithio i Gyngor Sir
Gwynedd lle bu'n gyfreithiwr ac yna'n Ysgrifennydd y Sir. Ar
ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 penodwyd ef yn Brif Weithredwr.
Gweithiodd yn galed i sefydlu'r sir newydd a'i pholisi iaith. Bu'n
Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o
flynyddoedd. Gwnaeth waith sylweddol yng nghyd-destun y newidiadau
diweddar i'r Eisteddfod. Hefyd bu'n Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr
Eisteddfod yng Nghaernarfon 1979. Mae'n lên garwr ac yn cefnogi'r
'pethe' yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'n flaengar yn ei gapel
lleol yn aelod o'r clwb llenyddol ac yn cefnogi pob digwyddiad
diwylliannol.
Glyn T Jones, Aberystwyth
Gŵr a roes oes o wasanaeth i
nifer o'n sefydliadau cenedlaethol gan ddal amryw swyddi yn eu
pwyllgorau - yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru,
Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant. Bu'n amlwg
hefyd ar lwyfannau'r prif wyliau fel arweinydd a beirniaid dawnsio
gwerin. Mae'n flaenor ym Mlaenplwyf ac yn Drysorydd Henaduriaeth
Gogledd Aberteifi ers 1998. Bu'n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol
ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Bugeiliol. Y mae ganddo ddiddordeb mawr
mewn hen reilffyrdd ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Datblygu
Rheilffyrdd Canolbarth Cymru. Y mae'n ysgrifennydd Apêl Sganiwr a
Chancer Ysbyty Bronglais a gwelodd godi dros filiwn o bunnoedd i'r
achos. Gŵr eang ei ddiwylliant a'i ddiddordebau a'i weithgarwch yn
eang yn ei filltir sgwâr yn ogystal â chenedlaethol.
Delyth Mai Nicholas, Pontarddulais
Cystadleuydd adrodd
/ llefaru mewn eisteddfodau bac a mawr ers yn dair oed gan ennill
llu o wobrwyon yn cynnwys chwe gwobr gyntaf yn Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd a chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod
Genedlaethol. Bu'n hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu am dros
20 mlynedd. Bu'n athrawes ddrama a bellach mae'n ddarlithydd yn
Adran Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
O ganlyniad bu'b hyfforddi nifer fawr o blant a phobl ifanc yn y
maes actio. Bellach y mae wedi cychwyn Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi
i blant a phobl ifanc rhwng 9 a 18 oed. Bu'n arweinydd ar lwyfan yr
Eisteddfod Genedlaethol, yn aelod o Is-Bwyllgor Llefaru amryw o
Eisteddfodau y De a bu hefyd yn aelod o Is-Bwyllgorau Eisteddfodau'r
Urdd. Bellach mae'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r
Eisteddfod a'r Pethe wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed.
Meurig Owen, Llundain
Brodor o Lanrug, Caernarfon.
Gadawodd Ysgol Brynrefail yn 1937 pan aeth i weithio mewn swyddfa
yswiriant yn Llundain. Ac eithrio cyfnod y rhyfel bu yno nes iddo
ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Blaenor yn eglwys Lewisham er 1953 ac
ysgrifennydd er 1961. Cymer ddiddordeb mewn hanes lleol ac yn
arbennig hanes y Cymry a'u Heglwysi yn Llundain, ynghyd ? hanes rhai
o chwareli llechi Gwynedd. Dengys ei gyfrolau sylweddol Tros y Bont
- hanes Eglwysi Falmouth Road, Deptford a Parsons Hill Woolwich, ac
Ymofyn am yr hen Lwybrau - hanes saith o Eglwysi Presbyteraidd
Cymraeg Llundain - ôl casglu helaeth a llafur manwl iawn. Y maent yn
gyfnodolion amhrisiadwy o fywyd ysbrydol a chrefyddol y Cymry alltud
yn Llundain. Pwysig hefyd yw'r darlithoedd a gyhoeddwyd ganddo James
Hughes a'i Deulu ac Emynwyr Henaduriaeth Llundain. Y mae ei waith hi
gyd yn dwyn nodau ymchwilydd manwl a diarbed, Dyma lafur cariad y
Cymro alltud nodedig hwn.
Emyr Owen Parri, Talwrn, Ynys Môn
Brodor o Gaernarfon a
chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Cyfreithiwr uchel iawn ei barch,
gan baratoi achosion llys yn drylwyr a dawn areithio arbennig
ganddo, Ymddangosodd yn rheolaidd yn y Llysoedd Ynadon a bu'n ymdrin
a llu o achosion mawr a blaenllaw yn Llys y Goron a'r Uchel Lys.
Fe'i penodwyd yn Gofiadur a bu'n gweithredu fel Cofiadur yn Llysoedd
y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr 1980au fe'i penodwyd yn Ddirprwy
Farnwr Rhanbarth cyn iddo gael ei benodi yn farnwr Rhanbarth llawn
amser yn 1992. Bu yn y swydd honno am 10 mlynedd. Drwy gydol ei yrfa
bu'n gefnogol ac yn flaengar iawn ynglŷn â hyrwyddo'r Gymraeg. Bu'n
gweithredu ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol yn ymwneud â defnydd
o'r iaith yn y llysoedd ac yn ddiweddar bu'n paratoi cyrsiau undydd
ar y pwnc. Cyfrannodd yn helaeth i faterion diwylliannol yn ei
filltir sgwâr - yn flaenllaw gyda gweithgareddau Theatr Fach
Llangefni, aelod o barti Cerdd Dant Haf Morris, a bu'n chwarae
criced i Glwb Llangefni - heblaw hybu achosion dyngarol ac
elusennol.
Gwennant Pyrs Roberts, Bangor
Brodor o bentref
Llanuwchllyn a raddiodd o Adran Cerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor.
Ar ôl cyfnod yn gweithio fel athrawes beripatetig ymsefydlodd yn
bennaeth adran cerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Cyfrannodd
hefyd ar lwyfan cenedlaethol a hynny'n bennaf fel sylfaenydd ac
arweinydd Parti Seiriol a droes yn y man y Gôr Seiriol. Ers ei
sefydlu yn 1991 gosododd y côr marched hwn safon i'w efelychu ar
gyfer canu corawl i ferched yng Nghymru a rhagorodd ar ganu cerdd
dant gyda gosodiadau cerddorol a deallus ei harweinydd. Enillodd
droeon ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant
a dyma'r unig gôr marched Cymreig i'w wahodd i gymryd rhan fis
Tachwedd y llynedd yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Yn
yr un flwyddyn cynhaliodd y côr gyngerdd mawreddog yn Neuadd
Pritchard Jones, Prifysgol Cymru Bangor pryd y perfformiwyd am y tro
cyntaf gwaith comisiwn 'Cantus Triquetrus' gan y cyfansoddwr Cymreig
Karl Jenkins. Er 1993 cyhoeddodd y côr bedwar cryno ddisg sy'n
cynnwys detholiad o'u repertoire amrywiol ac uchelgeisiol. Arweinydd
crefftus ac ysbrydoledig.
David Richard Williams, Florida
Ganed yn Llanelwy ac
addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn, Ysgol Eirias Bae
Colwyn a Phrifysgolion Aberystwyth, Gogledd Carolina a Florida,
America. Graddiodd mewn economeg. Bu mewn amryw o swyddi ym
Mhrifysgol Florida a Gogledd Carolina gan arbenigo mewn dysgu ac
ymchwil yn yr adrannau Economeg. Cadwodd gysylltiad agos â Chymru.
Llywydd cyntaf a sefydlwr (gyda'r Dr Arturo Roberts) y Siambr
Fasnach Cymru yng Ngogledd America. Ers 1989 ef yw Llywydd Corff
Ymgynghorol Economaidd Florida ac athro cynorthwyol mewn Economeg
Prifysgol Miami, Florida. Bu'n hael ei nawdd i'r ysgolion lle
derbyniodd ei addysg gynnar.