I'w derbyn i'r Orsedd 2005
Urdd Ofydd er Anrhydedd
| Penri
Williams, Pentyrch, Caerdydd Yn enedigol o Borthmadog, ac yntau'n naw oed symudodd y teulu i Lantrisant ac yna i Gaerdydd. Wrth ei alwedigaeth bu'n beiriannydd trydan i'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan. Ar ôl ymddeol y mae bellach yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth i Fenter Iaith Morgannwg a Gwent. Bu'n Gadeirydd a Thrysorydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Bu'n aelod o Gôr Godre'r Garth ac yn ysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd. Bu'n aelod o Fwrdd Golygyddol y papur bro "Tafod Elai" ac ers 18 mlynedd ef yw'r Golygydd. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Taf ac Elai. |
![]() |
O Barddas

Gorsedd 2005 >> Penri